Y Pwyllgor Busnes |
Lleoliad: |
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 9 Mehefin 2015 |
|
|||
Amser: |
08.30 - 08.41 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: Preifat |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler (Cadeirydd) Paul Davies Jane Hutt Elin Jones Aled Roberts |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Aled Elwyn Jones (Clerc)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Peter Greening, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
||||
1 Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr Wythnos Hon
Gohiriodd y Llywodraeth Dadl Cyfnod 3 ar Fil Cymwysterau Cymru i'r wythnos ganlynol (Dydd Mawrth 16 Mehefin). Cynigiodd y Llywodraeth i gynnal Cyfnod 4 yn syth ar ôl dadl Cyfnod 3. Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai'n penderfynu a ddylai roi ei chaniatâd i hynny ddigwydd, ar ôl cwblhau Cyfnod 3.
Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.
Ddydd Mawrth, ni fydd Cyfnod Pleidleisio. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Rheolwyr Busnes, yn sgil gohirio dadl Cyfnod 3 ar Fil Cymwysterau Cymru, fod amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi newid yn sylweddol.
3.3 Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 1 Gorffennaf 2015
· Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
4 Deddfwriaeth
4.1 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)
Yng nghyfarfod yr wythnos diwethaf, nododd y Rheolwyr Busnes bryderon y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn ag amserlen arfaethedig Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) ac ystyriwyd cais i ymestyn y terfyn amser ar gyfer cwblhau trafodion Cyfnod 1 am bythefnos. Ar gais y Gweinidog, cytunodd y Pwyllgor i ohirio'r penderfyniad am wythnos er mwyn caniatáu cynnal trafodaethau ar y materion ymarferol sy'n ymwneud ag ymestyn terfyn amser.
Yn dilyn trafodaethau rhwng swyddogion y Comisiwn a Llywodraeth Cymru, bu Rheolwyr Busnes yn ystyried papur yn amlinellu sut y gellid cyflwyno gwelliannau Cyfnod 2 i'r Bil am ddeuddydd yn ystod toriad y Nadolig, ar 14 a 15 Rhagfyr 2015 petai terfyn amser Cyfnod 1 yn cael ei ymestyn.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymestyn y terfyn amser i'r Pwyllgor adrodd ar ei waith craffu yng Nghyfnod 1 am bythefnos ar ôl cynnig cychwynnol y Llywodraeth, o 13 Tachwedd i 27 Tachwedd, a chytunwyd y gellid cyflwyno gwelliannau ar 14 a 15 Rhagfyr 2015.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mai'r terfyn amser ar gyfer cwblhau trafodion Pwyllgor Cyfnod 2 fyddai 5 Chwefror 2016.
5 Pwyllgorau
5.1 Y Pwyllgor Deisebau: Cais i ymweld â Brwsel
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar gais gan y Pwyllgor Deisebau i ymweld â Senedd Ewrop ym Mrwsel ddydd Mawrth 23 Mehefin 2015.
Unrhyw Fater Arall
Yn wyneb nifer o gwestiynau llafar yn cael eu tynnu'n ôl yr wythnos flaenorol oherwydd bod Aelodau ar ymweliad Pwyllgor, atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes i sicrhau bod Aelodau a fydd yn absennol o'r Cynulliad yn tynnu eu henwau o'r pleidleisiau perthnasol er mwyn osgoi sefyllfa debyg rhag codi eto.